Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 25 Ebrill 2022

Amser: 14.00 - 16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12809


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jack Sargeant AS (Cadeirydd)

Luke Fletcher AS

Joel James AS

Buffy Williams AS

Tystion:

Julie Davies, Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Sally Jenkins, Cyngor Dinas Casnewydd

Deborah Jones, Voices from Care

Annabel Lloyd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Francesca Pritchard, Voices from Care Cymru

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sally Jenkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd, Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant Cyngor Rhondda Cynon Taf a Julie Davies, Pennaeth Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe.

</AI2>

<AI3>

3       Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Deborah Jones, Prif Weithredwr Voices from Care Cymru a Francesca Pritchard, Rheolwr Llesiant ar gyfer Voices from Care Cymru.

</AI3>

<AI4>

4       Deisebau newydd

</AI4>

<AI5>

4.1   P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Busnes y Senedd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

</AI5>

<AI6>

4.2   P-06-1258 Gwneud unigolion yng Nghymru ag anableddau cudd yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Glas

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa nes cyhoeddir casgliadau’r ymchwil y mae Llywodraeth wedi’i gomisiynu i’r mater hwn.

</AI6>

<AI7>

4.3   P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto yn gofyn am ddata manylach i weld a oes ysgolion neu awdurdodau lleol penodol lle mae'r cyflymder cyfartalog yn arafach nag y dylai fod.

</AI7>

<AI8>

4.4   P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bo Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o’r mater hwn.

</AI8>

<AI9>

4.5   P-06-1265 Dylid newid enw ward etholiadol newydd Saltney, Sir y Fflint i "Saltney a Saltney Ferry."

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd yr etholiadau lleol sydd ar ddod yn debygol o godi ymwybyddiaeth o'r enw ac, o unrhyw gynigion i'w newid o bosibl. Cytunodd y Pwyllgor na ellid cymryd unrhyw gamau eraill a chytunodd i gau’r ddeiseb.

</AI9>

<AI10>

4.6   P-06-1266 Profion COVID i blant sy'n addas i’r oedran

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau y bydd profion llai annymunol ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i roi gwybod i’r deisebydd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno profion llai annymunol.

</AI10>

<AI11>

4.7   P-06-1267 Creu system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd sy’n perfformio’n wael

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i anfon y ddeiseb at y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd er mwyn i aelodau’r Pwyllgor hwnnw ei hystyried fel rhan o’u trafodaethau presennol ynghylch ethol Aelodau o’r Senedd yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI11>

<AI12>

4.8   P-06-1269 Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto i ofyn am ymateb i’r cynigion a gyflwynwyd gan y deisebwyr yn eu hymateb i’r Pwyllgor. 

</AI12>

<AI13>

5       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI13>

<AI14>

5.1   P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto i ofyn am esboniad manylach o’r cyllid sydd ar gael i gymunedau ac a fydd unrhyw ganllawiau neu gymorth ar gael i’r rhai sydd am redeg a chynnal a chadw adeiladau cymunedol.

</AI14>

<AI15>

5.2   P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wrthi’n ymgynghori ynghylch y mater. Cytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa ac ailystyried y ddeiseb pan fydd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r casgliadau.

</AI15>

<AI16>

5.8   P-06-1210 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod pedair deiseb arall yn ymwneud â hyn wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor.  Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi egluro’r broses eithrio sydd ar gael i awdurdodau lleol ei dilyn os ystyrir bod 20mya yn amhriodol ar gyfer ffordd benodol. O ystyried bod y broses eithrio’n cynnig fforodd i’r deisebwyr dynnu sylw eu hawdurdod lleol ar eu pryderon, ac y gall yr awdurdodau hyn adolygu’r penderfyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

</AI16>

<AI17>

5.4   P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa nes bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi gorffen trafod y mater.

</AI17>

<AI18>

5.5   P-06-1226  Dileu'r hyn sy’n rhwystro mynediad i waith cymdeithasol ac annog parch cydradd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y ddeiseb wedi llwyddo i sicrhau y bydd rhagor o gyllid ar gael ar gyfer carfannau o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol ôl-raddedig yn y dyfodol, ac y bydd hyn yn gwella’r sefyllfa. Mae opsiynau eraill yn cael eu datblygu a disgwylir i gynllun gweithlu gwaith cymdeithasol gael ei gyhoeddi. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebwyr ar eu llwyddiant a chau’r ddeiseb. 

</AI18>

<AI19>

5.6   P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth yn mynd rhagddynt, ac y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y dyfodol. Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau eraill y gallai eu cymryd yn awr a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at fater pwysig iawn drwy gyfrwng y ddeiseb.

</AI19>

<AI20>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniwyd y cynnig.

</AI20>

<AI21>

7       Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd y byddai’n gwahodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor er mwyn cael rhagor o dystiolaeth.

</AI21>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>